
.jpg)
Dechreuodd Ffilmschool 2 yn Haf 2007. Yma, yn lle gweithio mewn ysgolion am dim ond wythnos (fel yn Ffilmschool) fe wnaethon ni weithio gydag un clwstwr yn ardal Cymunedau'n Gyntaf Llansawel yng Nghastell-nedd Port Talbot dros gyfnod o flwyddyn. Cefnogwyd y project hwn gan y Loteri trwy Gyngor Celfyddydau Cymru; Asiantaeth Ffilm Cymru; a CBS Castell-nedd Port Talbot .
Y bwriad oedd i ddarparu cyfleoedd estynedig i blant ddatblygu eu sgiliau gwneud ffilmiau ac i weld ffilmiau heb naratif a ffilmiau tu hwnt i'r prif ffrwd. Roedd y project hefyd yn cynnwys sawl diwrnod o hyfforddiant mewn-swydd, er mwyn i'r athrawon ddatblygu hyder a dod yn gyfarwydd â defnyddio ffilm yn yr ystafell ddosbarth.
Gallwch islwytho adroddiad ymchwil Ffilmschool 2 yma.
Roedd pob dosbarth yn defnyddio 6 gliniadur MacBook a chamerâu, er mwyn i'r plant weithio mewn grwpiau o ddim mwy na 5.
Wedi projectau dechreuol byr yn Haf 2007, aethon ni ymlaen i weithio ar farddoniaeth a ffilmiau yn ystod tymor yr Hydref, gyda'r bardd-perfformio Lloyd Robson. Yn y projectau hyn, dechreuoedd Lloyd trwy edrych ar dechnegau ysgrifennu barddoniaeth, ac wedyn fe wnes i gyflwyno enghreifftiau o sut y gellid defnyddio delwedd fel metaffor. Aeth y plant ati wedyn i ysgrifennu cerddi, gweithio ar eu perfformiadau, a chreu ffilmiau (ffilmio ac wedyn golygu'r delweddau i ffitio'r cerddi).
Dyma enghreifft o 'Voices in the Vale', gweithdy ysgrifennu oedolion. Yma, dangoswyd ffilm 'montage' i'r beirdd ei ddefnyddio fel sail i gerdd, wedyn recordiwyd y cerddi gyda'r rhaglen golygu-fideo iMovie HD. Wedyn, fe wnaethon nhw ffilmio a golygu ffilm newydd i fynd gyda'u cerddi.
Ffilm Paula
Yn y Gwanwyn, y ffocws oedd ffilm a cherddoriaeth, gyda'r tiwtor Neil White o
Gerdd Gymunedol Cymru.
Man cychwyn oedd edrych ar enghreifftiau o sut oedd delweddau symudol a sain yn gweithio gyda'i gilydd, megis Koyaanisqatsi, Bande à Part, a'r ffilm Sofietaidd Dyn â Chamera Ffilm. Wedyn, rhoddwyd tasg creu ffilm a cherddoriaeth i'r digyblion.
Yn yr enghraifft hon, o Ysgol Iau Llansawel, roedd y plant wedi derbyn detholiad o luniau saethiad-agos (roeddwn ni wedi ychwanegu symudiadau sylfaenol at y clipiau).
Trafodwyd beth allai fod ystyr emosiynol y lluniau, ac wedyn cafwyd trafodaeth tebyg ynglyn â nifer o ddarnau o gerddoriaeth na fyddai'r plant yn gyfarwydd â nhw, megis Miles Davies a Gorky's Zygotic Mynci. Pa clip sain fyddai'n gweithio'r gorau gyda pha delwedd?
Fe wnaeth pob grwp ddewis pedwar allan o'r saith delwedd fel sail i ddarn o gerddoriaeth, a grewyd trwy ddefnyddio Garageband.
Wedyn, defnyddiodd y plant iMovie i olygu'r clipiau i rythm y gerddoriaeth, ac aethon nhw ymlaen i ychwanegu effeithiau fideo.
Llosgfynydd
Yn Nhymor yr Haf, daeth yr amser i'r athrawon ei hun ddyfeisio projectau. Yn yr enghraifft hon - o Ysgol Iau Brynhyfryd - nod y fideo oedd dangos math o symud trwy gerddoriaeth a ffilm.
Cwympo
Yn yr enghreifft isod, o Ysgol Iau Ynysmaerdy, fe wnaeth y plant ffilmio lleoliad yn yr ardal leol, ac wedyn ysgrifennu sgript yn dychymygu sgyrsiau a allai bod wedi digwydd yn y lleoliad yna.
Yr Orsaf
Fe wnaeth y grwp yma o Ysgol Iau'r Felin greu ffilm yn mynegi barn am yr ardal leol. Cynhyrchwyd y ffilm yma gyda ychydig iawn o gymorth gan oedolion.
Rap y Felin
Daw'r ffim olaf o ddosbarth Saesneg Blwyddyn 7 yn Ysgol Gyfun Cwrt Sart. Ysgrifennwyd unawd a chyfansoddwyd cerddoriaeth i cyflwyno'r parc lleol trwy metaffor.
Y Parc
No comments:
Post a Comment