4.3.09
Project Ffilm a Sain y Tyllgoed
Dros hanner tymor y Gwanwyn fe wnaethon ni weithio gyda phobl ifanc (12-18) yn Nghanolfan Ieuenctid Waterhall, mewn ardall Cymunedau'n Gyntaf y Tyllgoed yng Nghaerdydd, gyda chefnogaeth gan tîm Cymunedau'n Gyntaf. Fe wnaeth y pobl ifanc ddysgu am fiwsig 'funk' gyda chymorth Kev Sayer o Gerdd Gymunedol Cymru. Aethant ymlaen i greu darnau fyr o fiwsig wrth ddefnyddio meddalwedd 'Garageband'. Dangosodd Tom Barrance enghreifftiau o sut o dorri golygfa lawr i'w helfennau wrth ddefnyddio onglau camera gwahanol, yn ystyried fframio, patrwm a siap. Hefyd, ystyriwyd 'montage' a golygu i fiwsig, trwy edrych ar ddilyniannu teitl a darn o ffilm Vertov 'Dyn gyda Chamera Ffilm'. Crewyd ffilmiau byrion trwy olygu'r delweddau i rhythm cerddoriaeth wrth ddefnyddio 'Final Cut Express'. Yn yr enghraifft hon, a wnaed gan bedair merch, fe wnaethon nhw ddefnyddio sawl trac fideo ac ychwanegu effeithiau.
Cyllidwyd y project hwn gan Asiantaeth Ffilm Cymru a Heddlu De Cymru.
1.12.08
Soundtrack

.jpg)
Fe wnaeth Tom Barrance weithio gyda Neil White o Gerdd Cymunedol Cymru i ddarparu gweithdai fel rhan o Wyl Gerddoriaeth a Ffilm Soundtrack ym Mae Caerdydd ar y 27ain a 28ain Tachwedd.
Yn yr enghreifft hon o weithdy hanner-dydd, fe wnaeth myfyrwyr Astudio'r Cyfryngau TGAU Ysgol Rhydfelen (Garth Olwg) ddefnyddio Garageband i greu sgor ar gyfer ffilm fer (sy'n dod o'n DVD o olygfeydd heb eu golygu ar gyfer ymarfer, fydd ar gael yn y flwyddyn newydd).
Gyda diwrnod cyfan, fe wnaeth myfyrwyr greu sgor i'r dilyniant, ac wedyn ei defnyddio fel sail i ffilm newydd. Fe wnaethon nhw ffilmio o gwmpas y Bae a golygu'r ffilm i ffitio'r gerddoriaeth wrth ddefnyddio Final Cut Express. Crewyd yr enghraifft hon gan fyfyrwyr Cerddoriaeth Safon Uwch o Ysgol Gyfun Ferndale.
4.11.08
Llen y Lli


Roedd y gweithdy undydd hwn yn rhan o wyl Llen y Lli a gynhaliwyd gan Academi ym Mae Caerdydd ym Mis Hydref 2008. Fe wnaethon ni weithio gyda Mererid Hopwood. Roedd y plant i gyd yn aelodau o 'Sgwadiau Sgwennu' yr Academi, gyda'r mwyafrif yn dod o Flwyddyn 9 yn Ysgol Gyfun Bro Morgannwg.
Y tasg oedd i weithio mewn grwpiau i ysgrifennu cerddi wedi ei seilio ar ffilm 'montage' di-sain. Wedyn, fe wnaethon nhw recordio'r cerddi fel perfformiadau. Y cam nesaf oedd i weithio allan sut i greu ffilm gwbl newydd, gyda delweddau newydd, ar sail eu cerddi. Fe wnaethon nhw mynd alla n i ffilmio'r delweddau ym Mae Caerdydd, cyn dod yn ôl i olygu'r ffilmiau gyda iMovie.
Ffilmschool 2

.jpg)
Dechreuodd Ffilmschool 2 yn Haf 2007. Yma, yn lle gweithio mewn ysgolion am dim ond wythnos (fel yn Ffilmschool) fe wnaethon ni weithio gydag un clwstwr yn ardal Cymunedau'n Gyntaf Llansawel yng Nghastell-nedd Port Talbot dros gyfnod o flwyddyn. Cefnogwyd y project hwn gan y Loteri trwy Gyngor Celfyddydau Cymru; Asiantaeth Ffilm Cymru; a CBS Castell-nedd Port Talbot .
Y bwriad oedd i ddarparu cyfleoedd estynedig i blant ddatblygu eu sgiliau gwneud ffilmiau ac i weld ffilmiau heb naratif a ffilmiau tu hwnt i'r prif ffrwd. Roedd y project hefyd yn cynnwys sawl diwrnod o hyfforddiant mewn-swydd, er mwyn i'r athrawon ddatblygu hyder a dod yn gyfarwydd â defnyddio ffilm yn yr ystafell ddosbarth.
Gallwch islwytho adroddiad ymchwil Ffilmschool 2 yma.
Roedd pob dosbarth yn defnyddio 6 gliniadur MacBook a chamerâu, er mwyn i'r plant weithio mewn grwpiau o ddim mwy na 5.
Wedi projectau dechreuol byr yn Haf 2007, aethon ni ymlaen i weithio ar farddoniaeth a ffilmiau yn ystod tymor yr Hydref, gyda'r bardd-perfformio Lloyd Robson. Yn y projectau hyn, dechreuoedd Lloyd trwy edrych ar dechnegau ysgrifennu barddoniaeth, ac wedyn fe wnes i gyflwyno enghreifftiau o sut y gellid defnyddio delwedd fel metaffor. Aeth y plant ati wedyn i ysgrifennu cerddi, gweithio ar eu perfformiadau, a chreu ffilmiau (ffilmio ac wedyn golygu'r delweddau i ffitio'r cerddi).
Dyma enghreifft o 'Voices in the Vale', gweithdy ysgrifennu oedolion. Yma, dangoswyd ffilm 'montage' i'r beirdd ei ddefnyddio fel sail i gerdd, wedyn recordiwyd y cerddi gyda'r rhaglen golygu-fideo iMovie HD. Wedyn, fe wnaethon nhw ffilmio a golygu ffilm newydd i fynd gyda'u cerddi.
Ffilm Paula
Yn y Gwanwyn, y ffocws oedd ffilm a cherddoriaeth, gyda'r tiwtor Neil White o
Gerdd Gymunedol Cymru.
Man cychwyn oedd edrych ar enghreifftiau o sut oedd delweddau symudol a sain yn gweithio gyda'i gilydd, megis Koyaanisqatsi, Bande à Part, a'r ffilm Sofietaidd Dyn â Chamera Ffilm. Wedyn, rhoddwyd tasg creu ffilm a cherddoriaeth i'r digyblion.
Yn yr enghraifft hon, o Ysgol Iau Llansawel, roedd y plant wedi derbyn detholiad o luniau saethiad-agos (roeddwn ni wedi ychwanegu symudiadau sylfaenol at y clipiau).
Trafodwyd beth allai fod ystyr emosiynol y lluniau, ac wedyn cafwyd trafodaeth tebyg ynglyn â nifer o ddarnau o gerddoriaeth na fyddai'r plant yn gyfarwydd â nhw, megis Miles Davies a Gorky's Zygotic Mynci. Pa clip sain fyddai'n gweithio'r gorau gyda pha delwedd?
Fe wnaeth pob grwp ddewis pedwar allan o'r saith delwedd fel sail i ddarn o gerddoriaeth, a grewyd trwy ddefnyddio Garageband.
Wedyn, defnyddiodd y plant iMovie i olygu'r clipiau i rythm y gerddoriaeth, ac aethon nhw ymlaen i ychwanegu effeithiau fideo.
Llosgfynydd
Yn Nhymor yr Haf, daeth yr amser i'r athrawon ei hun ddyfeisio projectau. Yn yr enghraifft hon - o Ysgol Iau Brynhyfryd - nod y fideo oedd dangos math o symud trwy gerddoriaeth a ffilm.
Cwympo
Yn yr enghreifft isod, o Ysgol Iau Ynysmaerdy, fe wnaeth y plant ffilmio lleoliad yn yr ardal leol, ac wedyn ysgrifennu sgript yn dychymygu sgyrsiau a allai bod wedi digwydd yn y lleoliad yna.
Yr Orsaf
Fe wnaeth y grwp yma o Ysgol Iau'r Felin greu ffilm yn mynegi barn am yr ardal leol. Cynhyrchwyd y ffilm yma gyda ychydig iawn o gymorth gan oedolion.
Rap y Felin
Daw'r ffim olaf o ddosbarth Saesneg Blwyddyn 7 yn Ysgol Gyfun Cwrt Sart. Ysgrifennwyd unawd a chyfansoddwyd cerddoriaeth i cyflwyno'r parc lleol trwy metaffor.
Y Parc
Ffilmschool

Cyfres o brojectau gwneud-ffilmiau byrion oedd Ffilmschool (2006-7). Fe wnaeth Ffilmschool barhau am flwyddyn, ac roedd mwyafrif y projectau yn digwydd gyda phlant 10-12 oed (Blwyddyn 6 and 7). Prif noddwr Ffilmschool oedd y Loteri trwy Gyngor Celfyddydau Cymru, a chefnogwyd y project hefyd gan Apple a Canon.
Roedd mwyafrif y projectau'n parhau am tua wythnos. Gyda phob un, dechreuwyd trwy gyflwyno elfennau iaith ffilmiau, ac wedyn datblygu sgiliau'r plant trwy ymarferiadau ffilmio a golygu.
Dyma dwy ffilm-gerdd gyn blant Ysgol Gynradd Pontrhydyfen, mewn ardal Cymunedau'n Gyntaf Dyffryn Afan. (Cefnogwyd y projectau yn Nyffryn Afan gan CBS Castell-nedd Port Talbot).
Fe wnaeth pob grwp ysgrifennu cerdd 'personoli' am adeilad neu leoliad yn y pentref (y peth oedd yn siarad, fel petai'n berson). Recordiwyd y cerddi mewn i liniaduron iBook a wedyn aeth y plant i ffilmio delweddau i egluro'r cerddi, ac wedyn eu golygu i ffitio'r trac sain.
Castell
Cyrff
Yn y project Cymraeg isod - o Ysgol Saron, Sir Gaerfyrddin - addaswyd chwedl leol Llyn Llech Owain. Rhannwyd y stori mewn darnau, gyda phob grwp yn cynhyrchu un darn: ysgrifennu a recordio troslais, creu storifwrdd, ffilmio a golygu. Dyma'r ffilm gyfan sy'n cynnwys gwaith pob grwp.
Llyn Llech Owain
Subscribe to:
Posts (Atom)